Mae’r Gronfa Grant Datblygu Busnes wedi’i hariannu gan Gronfa Ffyniant a Rennir y DU (UKSPF), a bydd yn cefnogi busnesau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i arallgyfeirio, datgarboneiddio a thyfu. Rydym yn rhoi galwad olaf i fusnesau wneud cais o dan y cynllun hwn, gan y bydd yn cau yn ystod y misoedd nesaf yma (neu cyn hynny os yw’r arian yn cael ei glustnodi).
Mae Cronfa Ffyniant a Rennir y DU yn ganolog i agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU, ac yn cynnig cyllid gwerth £2.6 biliwn ar gyfer buddsoddiad lleol erbyn mis Mawrth 2025. Am ragor o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus
Bydd y Grant Datblygu Busnes yn cefnogi Mentrau Bach a Chanolig ac yn cynnig 50% o gostau prosiectau cyfalaf cymwys. Y grant lleiaf sydd ar gael yw £5,000 gyda’r grant mwyaf yn £25,000 (ac eithrio TAW).
Mae cyllid ar gael i fusnesau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr sy’n bodloni’r meini prawf canlynol:
Os nad ydych yn siŵr a ydych yn gymwys ai peidio, neu os hoffech chi ddysgu mwy, mae croeso i chi gysylltu â businessfunds@bridgend.gov.uk
Dilynwch ni