Mae’r Adran Masnach Ryngwladol wedi lansio dau adnodd digidol i ddarparu gwybodaeth i fusnesau sy’n allforio nwyddau i farchnad y DU ac ohoni.
Mae’r adnoddau am ddim sydd ar gael i’w defnyddio ar wefan y Llywodraeth yn cynnwys gwybodaeth sy’n benodol i gynnyrch a gwledydd ynglŷn â thariffau, rheoliadau a phynciau eraill mewn un lle, gan arbed amser i fusnesau a’u gwneud hi’n haws iddynt fasnachu.
Mae’r adnodd ‘Masnachu gyda’r DU‘ yn darparu busnesau sy’n allforio nwyddau i farchnad y DU gyda gwybodaeth fanwl a chyfredol ar bynciau megis tariffau, trethi a rheolau.
Mae’r adnodd ‘Gwirio Sut i Allforio Nwyddau‘ yn darparu busnesau sy’n allforio nwyddau allan o farchnad y DU gyda gwybodaeth ynglŷn â gweithdrefnau tollau ar gyfer dros 160 o farchnadoedd ledled y byd. Mae’r adnodd hwn hefyd yn darparu gwybodaeth ynglŷn â ffin y DU gan adrannau eraill y llywodraeth megis CThEM a’r Adran Addysg, Bwyd a Materion Gwledig.
I gael arweiniad perthnasol, mae angen i fusnesau wybod o beth mae’r cynnyrch wedi’i wneud ac i le, neu o le, maent yn ei allforio.
Wrth i fasnach y DU ddechrau pennod newydd fel cenedl masnachu annibynnol, nod yr adnoddau hyn yw cefnogi busnesau cyfredol sy’n masnachu’n rhyngwladol ac annog busnesau newydd i ddechrau arni, gan ei gwneud hi’n haws iddynt ddod o hyd i’r wybodaeth sydd ei hangen arnynt. Mae’r holl wybodaeth sydd wedi’i chynnwys yn yr adnoddau, ar bynciau megis tariffau, trethi a rheolau, yn parhau yr un fath wrth i ni fynd i’r cyfnod trawsnewid.
Bydd yr adnoddau digidol yn cael eu diweddaru’n rheolaidd i adlewyrchu unrhyw newidiadau.
Dilynwch ni