Mae busnes newydd sbon sy’n dod â chinio iach a smwddis i ganol Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi agor ei ddrysau yn swyddogol.
Croesawodd GOODNESS, sydd wedi’i leoli ar Stryd Wyndham, ei gwsmeriaid cyntaf ddydd Gwener 21 Mawrth. Mae’r busnes annibynnol yn rhoi bywyd newydd i uned fasnachol oedd yn segur o’r blaen ac yn cynnig opsiynau bwyd a diod maethlon i bobl sy’n gweithio, siopa neu’n ymweld â chanol y dref.
Cawsant gymorth gan dîm Datblygu Economaidd a Menter Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, drwy ddarparu Grant Dechrau Busnes, gan eu helpu i wneud cysylltiadau newydd i ariannu twf eu busnes a’u cynorthwyo i gael y Rhyddhad Ardrethi Manwerthu.
Dywedodd Kayleigh Hopkins, y perchennog, “Dwi’n llawn cyffro i ddechrau fy musnes yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr. Dwi bob amser wedi bod eisiau creu rhywbeth sy’n hyrwyddo ffordd iach o fyw, a dwi’n gobeithio y bydd GOODNESS yn cynnig dewis arall adfywiol i bobl wrth fynd.”
“Dwi’n hynod ddiolchgar i’r tîm Datblygu Economaidd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr am fy nghefnogi yn ystod camau cynnar fy nhaith, a dwi’n edrych ymlaen at fasnachu ym Mhen-y-bont ar Ogwr am flynyddoedd lawer i ddod.”
Mae agor GOODNESS yn gam cadarnhaol arall ymlaen i ganol tref Pen-y-bont ar Ogwr, gyda’r uned bellach yn cael ei defnyddio yn gynhyrchiol ac yn denu mwy o bobl i’r ardal.
Dywedodd y Cynghorydd Neelo Farr, Aelod Cabinet dros Adfywio, Datblygu Economaidd a Thai yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, “Rwy’n falch iawn o weld busnes newydd mor egnïol yn dod â syniadau newydd ac opsiynau iach i Ben-y-bont ar Ogwr. Mae’n wych gweld entrepreneuriaid lleol yn dewis sefydlu yng nghanol ein tref, a hoffwn ddymuno pob llwyddiant i GOODNESS. Hoffwn hefyd ddiolch i’n tîm Datblygu Economaidd am y cymorth ymarferol y maen nhw’n parhau i’w gynnig i fusnesau newydd ledled y sir.”
Mae’r ychwanegiad newydd i Stryd Wyndham yn rhan o ymdrech ehangach i adfywio canol tref Pen-y-bont ar Ogwr ac annog menter drwy gefnogi entrepreneuriaid lleol i ddod â’u syniadau’n fyw.
Os ydych chi’n ystyried sefydlu busnes ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac yn chwilio am gymorth ac arweiniad, cysylltwch â’r tîm Datblygu Economaidd a Menter yn business@bridgend.gov.uk
Dilynwch ni