Dosbarthwyd canllawiau pwysig i bob cyflogwr a’r hunangyflogedig yng Nghymru ynghylch eu cyfrifoldebau i helpu i gyflawni’r strategaeth Profi Olrhain Diogelu.
Nod Profi Olrhain Diogelu, a lansiwyd yng Nghymru ddydd Llun, 1 Mehefin, yw arafu lledaeniad COVID-19, gan ddiogelu’r system gofal iechyd ac achub bywydau.
Mae canllawiau Profi Olrhain Diogelu Llywodraeth Cymru (External link – Opens in a new tab or window) yn cynnwys gwybodaeth ynglŷn â’r canlynol:
Darperir rhagor o wybodaeth am y canlynol:
Ar gyfer yr hunangyflogedig, y cyngor gan Lywodraeth Cymru yw parhau i weithio gartref os yw hynny’n bosibl. Os nad yw hyn yn bosibl, dylid gweithredu canllawiau Diogelu Cymru yn y gwaith (External link – Opens in a new tab or window) ar gyfer yr amgylchedd gwaith.
Mae Profi Olrhain Diogelu yn cael ei gyflawni trwy wasanaeth Profi Olrhain Diogelu GIG Cymru, sy’n cynnwys byrddau iechyd lleol, Iechyd Cyhoeddus Cymru, awdurdodau lleol a Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru.
O fewn ein rhanbarth, mae hyn yn cynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.
Mae’r system yn gweithredu trwy wneud y canlynol:
Huw David, arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr: “Mae’r gwasanaeth Profi Olrhain Diogelu yn un o’r ymyriadau iechyd chyoeddus mwyaf mewn cenhedlaeth – mae wedi cael ei greu gyda’r unig ddiben o atal y coronafeirws rhag lledaenu, ac rydym yn annog pob busnes i ymgysylltu’n llawn a’r broses.
“Mae gan bob busnes yn y rhanbarth gyfrifoldeb i sicrhau ei fod yn cadw’n gyfredol a’r canllawiau diweddaraf a bod ei weithwyr yn cael eu hysbysu am y prosesau perthnasol sy’n ymwneud a phrofi ac olrhain cysylltiadau. Er mwyn help i gadw gweithwyr a chwsmeriaid yn ddiogel, mae angen i gwmniau hefyd sicrhau eu bod yn cymryd pob mesur rhesymol i lynu at y gyfraith o ran cadw pellter cymdeithasol yn y gweithle.
“Maw hwn yn gyfnod heriol ac anodd iawn ac mae angen help ein holl breswylwyr a busnesau arnom os ydym am dorri’r broses o drosglwyddo’r coronafeirws, gan alluogi pobl i ddechrau bwrw ymlaen a’u bywydau, gweld eu hanwyliaid, ac ailadeiladu eu bywoliaeth.”
Dolenni pwysig ar gyfer cyflogwyr:
Os yw’r coronafeirws wedi cael effaith andwyol ar eich busnes, gallwch fod yn gymwys am grant trwy’r Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig.
Dilynwch ni