Digwyddiad i Ymgysylltu Cyn Ffair Swyddi Maesteg ar gyfer Busnesau Pen-y-bont ar Ogwr

Dydd Gwener 7 Chwefror 2025

Mae digwyddiad i ymgysylltu ymlaen llaw ar gyfer cyflogwyr ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn cael ei gynnal cyn y Ffair Swyddi Maesteg. Wedi’i drefnu ar gyfer dydd Iau 20 Chwefror rhwng 8.30am a 10.30am yn Neuadd y Dref Maesteg, mae’r cyfarfod hwn yn cynnig cyfle arbennig ar gyfer busnesau sydd â diddordeb mewn dysgu rhagor am y ffair swyddi, a dod o hyd i ffyrdd i hysbysebu eu swyddi gwag i gynulleidfa ehangach mewn ffordd effeithiol.

Yn ystod y ffair swyddi, bydd bwrdd swyddi pwrpasol. Rydym yn annog cyflogwyr llai, sydd o bosib ddim yn gallu mynychu’r ffair, i fynychu’r sesiwn frecwast. Mae’r sesiwn hon yn gyfle i rannu eu swyddi gwag gyda thîm Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr. Bydd y cyfleoedd hyn yn cael eu dangos ar ddiwrnod y ffair ac yn y cyfnod ar ôl y digwyddiad.

Ar gyfer y busnesau sy’n mynychu’r ffair swyddi, mae’r digwyddiad ymgysylltu ymlaen llaw yn gyfle ardderchog i rwydweithio gyda chyflogwyr eraill. Drwy gysylltu ymlaen llaw gyda thimau Cyflogadwyedd a Jobcentre Plus (JCP), bydd hyn yn helpu cyfranogwyr i fanteisio i’r eithaf ar eu presenoldeb yn y ffair.

Bydd Tîm Cyflogadwyedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr hefyd yn rhan o’r sesiynau ac yn cyflwyno gwybodaeth ar gyfleoedd am gyllid grant. Bydd hyn yn eithriadol o fuddiol i fusnesau sydd awydd tyfu eu busnes neu’n chwilio am gymorth ychwanegol.

Gall y rheiny sydd â diddordeb mewn mynychu’r digwyddiad ymgysylltu ymlaen llaw gysylltu â thîm Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr drwy e-bostio Jobs-EmployabilityBridgend@bridgend.gov.uk neu ffonio 01656 815317.

<< Yn ôl at Newyddion