Cynhelir Ffair Swyddi Maesteg mis nesaf, cyfle arbennig i drigolion Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ddod o hyd i gyflogaeth.
Bydd y ffair ymlaen yn Neuadd y Dref Maesteg ar ddydd Mawrth 4ydd Mawrth o 10am i 1pm, yn dilyn ei ailagor swyddogol ym mis Tachwedd ar ôl prosiect ailddatblygu gwerth miliynau o bunnoedd a hynod uchelgeisiol, a gynhaliwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a’i bartneriaid yn Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen.
Mae’r digwyddiad hwn yn croesawu pawb sy’n chwilio am swyddi, myfyrwyr, ac unigolion ifanc, ni waeth beth yw eu hoedran na’u profiad. Bydd cyfle i fynychwyr gysylltu gyda chynrychiolwyr o amrywiaeth o gyflogwyr yn y diwydiannau cyhoeddus, manwerthu a lletygarwch, gan gynnwys:
Bwriad y digwyddiad yw hyrwyddo’r amrywiaeth o lwybrau gyrfa yn y sectorau cyhoeddus, preifat a lletygarwch. Bydd staff cyfeillgar tîm Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr ar gael drwy gydol y bore i gynnig cymorth ac arweiniad. Mewn partneriaeth â Job Centre Plus, byddant yn trafod y llwybrau at gyflogaeth a darparu cymorth wrth ystyried unrhyw anghenion hyfforddiant.
Ar gyfer busnesau sydd â diddordeb hysbysebu yn y ffair swyddi, e-bostiwch employabilitymarketing@bridgend.gov.uk am ragor o wybodaeth.
Dilynwch ni