Ffenestr ymgeisio ar gyfer Cronfa Refeniw Cerddoriaeth Cymru Greadigol ar agor

Dydd Mercher 26 Mehefin 2024

Mae’r ail rownd o geisiadau ar gyfer Cronfa Refeniw Cerddoriaeth Cymru Greadigol bellach ar agor.

Bydd busnesau cerddoriaeth ym mhob cwr o Ben-y-bont ar Ogwr yn gallu gwneud cais am grantiau gwerth rhwng £20,000 a £40,000 i’w gwario ar brosiectau a fyddai’n cael budd o gymorth oherwydd cyfyngiadau ariannol.

Bydd ffocws penodol ar:

  • Ymgyrchoedd ar gyfer rhyddhau cerddoriaeth newydd
  • Hyrwyddo cerddoriaeth fyw
  • Cynhyrchu cerddoriaeth at ddefnydd cefndir neu achlysurol ar y cyfryngau.
  • Cerddoriaeth Gymraeg

Bydd y cyllid yn cwmpasu’r sbectrwm cyfan o ffurfiau cerddoriaeth boblogaidd gyfoes, ond ni fydd yn cwmpasu prosiectau cerddoriaeth glasurol neu jas, gan fod cymorth eisoes ar gael ar gyfer y ffurfiau hynny.

Bydd y cyfnod ymgeisio yn dod i ben ddydd Llun 22 Gorffennaf am 12pm.

Mwy am hyn, gweld a ydych yn gymwys a gwneud cais.

<< Yn ôl at Newyddion