Galwad olaf am geisiadau ar gyfer Grant Datblygu Busnes Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Dydd Iau 20 Mehefin 2024

Mae’r Gronfa Grant Datblygu Busnes wedi’i hariannu gan Gronfa Ffyniant a Rennir y DU (UKSPF), a bydd yn cefnogi busnesau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i arallgyfeirio, datgarboneiddio a thyfu.  Rydym yn rhoi galwad olaf i fusnesau wneud cais o dan y cynllun hwn, gan y bydd yn cau yn ystod y misoedd nesaf yma (neu cyn hynny os yw’r arian yn cael ei glustnodi).

Mae Cronfa Ffyniant a Rennir y DU yn ganolog i agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU, ac yn cynnig cyllid gwerth £2.6 biliwn ar gyfer buddsoddiad lleol erbyn mis Mawrth 2025. Am ragor o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus

Bydd y Grant Datblygu Busnes yn cefnogi Mentrau Bach a Chanolig ac yn cynnig 50% o gostau prosiectau cyfalaf cymwys. Y grant lleiaf sydd ar gael yw £5,000 gyda’r grant mwyaf yn £25,000 (ac eithrio TAW).

Mae cyllid ar gael i fusnesau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr sy’n bodloni’r meini prawf canlynol:

  • Mae Masnachwyr Unigol, Partneriaethau, Cwmnïau Cyfyngedig, Cydweithfeydd a Phartneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig, Mentrau Cymdeithasol Cofrestredig neu Elusennau’n gymwys i wneud cais.
  • Trosiant gweithredol dros y 3 blynedd diwethaf sy’n uwch na’r trothwy TAW (£90,000)
  • Busnes sefydledig sydd wedi bod yn masnachu ers dros 3 blynedd
  • Cyfeiriad busnes Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
  • BBaCh (llai na 250 o weithwyr a throsiant blynyddol dan €50 miliwn)

Os nad ydych yn siŵr a ydych yn gymwys ai peidio, neu os hoffech chi ddysgu mwy, mae croeso i chi gysylltu â businessfunds@bridgend.gov.uk

<< Yn ôl at Newyddion