Mae gan Westy a Sba Best Western Heronston, Pen-y-bont ar Ogwr, destun dathlu mawr wedi i’r tîm yno gipio tair gwobr mewn seremonïau diweddar.
Enillodd tîm Sba Stepping Stone y gwobrau ‘Sba Moethus y Flwyddyn’ a ‘Thîm Sba y Flwyddyn’ yng Ngwobrau Diwydiant Harddwch Cymru Creative Oceanic ddydd Sul 21 Ionawr.
Enillodd Prif Gogydd y gwesty, Angharad Rockall, Fedal Efydd ym Mhencampwriaethau Coginio Rhyngwladol Cymru Cogydd Cenedlaethol Cymru 2024 ddydd Mercher 24 Ionawr.
Daw’r gwobrau hyn yn dilyn gwaith atgyweirio yn y gwesty yn ddiweddar a thîm y Sba Stepping Stone yn cipio ‘Gwobr Sba y Flwyddyn’ yng Ngwobrau Diwydiant Harddwch Cymru Creative Oceanic yn 2022.
Dywedodd Carolyn Powell, Rheolwr Cyffredinol y Gwesty: “Cipiodd ein Sba Stepping Stone wobr ‘Sba y Flwyddyn’ yng Ngwobrau Gwallt a Harddwch 2022, yn ogystal â chyrraedd y rownd derfynol yn 2023, felly mae ennill dwy wobr arall yn dilyn hynny yn gyflawniad anhygoel. Roeddem yn cystadlu yn erbyn sbâu moethus hirsefydledig ac felly rydym wrth ein bodd ein bod wedi cyrraedd y brig eto.”
“Cawsom fodd i fyw pan gyrhaeddodd Angharad rowndiau terfynol Cogydd Cenedlaethol Cymru 2024 ac aethom i’w chefnogi hi a Mikolaj, ei dirprwy gogydd, pan aethant draw i Ganolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru i gystadlu. Llwyddodd i roi enw’r gwesty ar y map ymhlith cogyddion Cymru drwy gystadlu yn erbyn cogyddion gorau’r wlad o sefydliadau enwog.”
“Dyluniodd a pharatôdd fwydlen tri chwrs i’w choginio o fewn 4 awr yn cynnwys cynhyrchion o Gymru ag iddynt Ddynodiad Daearyddol Gwarchodedig. Roeddem yn hynod falch ohoni pan gawsom wybod ei bod wedi ennill y Fedal Efydd gan mai dyma oedd y tro cyntaf iddi gymryd rhan mewn cystadleuaeth mor fawreddog. O ganlyniad i hyn, bydd nifer o bobl nawr yn ymwybodol o’n gwesty.”
Hoffa Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr longyfarch tîm Gwesty a Sba Heronston – cyflawniad arbennig gan bawb!
Cewch ragor o wybodaeth a rhestr lawn o enillwyr Gwobrau Diwydiant Harddwch Cymru yma.
Dilynwch ni