Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf Morgannwg yn cynnal asesiad i gael amcan o effaith bosib y newid yn yr hinsawdd ar sefydliadau a chymunedau yn ardaloedd Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful.
Mae un rhan hanfodol o’r asesiad hwn yn cynnwys cael mewnbwn gan sefydliadau, preswylwyr, grwpiau cymunedol a busnesau lleol er mwyn rhannu eu dealltwriaeth o’r risgiau i gymunedau lleol.
Maent yn gweithio i wella ein dealltwriaeth o’r risgiau yn ymwneud â’r hinsawdd a ddaw yn y dyfodol, fel ein bod wedi paratoi y gorau y gallwn ar gyfer effeithiau posib newid yn yr hinsawdd. Rydym eisiau clywed eich barn ynghylch yr effaith rydych chi’n credu y mae’r newid yn yr hinsawdd yn ei chael ar yr ardaloedd lle’r ydych chi’n gweithio, byw a chwarae, i helpu gyda’n hasesiad.
Dewch i gymryd rhan yn yr Asesiad Risg Newid yn yr Hinsawdd gydag unigolion eraill sy’n ystyriol o’r hinsawdd, drwy ddod i weithdy yng Nghanolfan Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr ar ddydd Llun 15 Gorffennaf, rhwng 6pm ac 8pm.
Bydd angen archebu tocyn i gadw eich lle, erbyn dydd Mercher 10 Gorffennaf. Os na allwch ddod i’r gweithdy, mae’n dal yn bosib ichi ddweud eich dweud a rhannu’ch safbwyntiau drwy anfon neges e-bost i PSB@bridgend.gov.uk
Rhagor o wybodaeth ac archebu lle.
Dilynwch ni