Bydd Syniadau Mawr Cymru yn mynd ar daith i leoliadau ar hyd a lled Cymru, gan ddod â’u harbenigedd mewn dechrau busnes eich hun i ddarpar berchnogion busnes.
Fel rhan o’r daith, bydd Syniadau Mawr Cymru yn dod i Ben-y-bont ar Ogwr.
Bydd cyfle ichi glywed gan berchnogion busnes sydd wedi bod yn eich esgidiau chi, cymryd rhan mewn gweithdy rhyngweithiol ynghylch bod yn hunan gyflogedig a chael cyfle i gwrdd â phobl ifanc eraill gyda’r un diddordebau.
Byddant yn ymweld â Neuadd Goffa, Llangrallo ym Mhen-y-bont ar Ogwr ddydd Mawrth 18 Hydref 2022.
Os ydych yn bwriadu dechrau eich busnes eich hun, mae’r digwyddiad hwn ar eich cyfer chi!
Mae lleoedd ar gyfer y digwyddiadau hyn yn brin, felly i sicrhau eich lle mae archebu yn hollol hanfodol.
Dilynwch ni