Mae offeryn asesu risg Covid-19 (External link – Opens in a new tab or window) wedi’i gynhyrchu gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch i helpu busnesau i reoli risg a diogelu pobl.
Mae’r offeryn ar-lein yn tynnu sylw at faterion sydd angen eu cynnwys mewn asesiad risg o’r gweithle – fel nodi peryglon penodol, ystyried pwy allai gael eu niweidio a sut, argymell pa gamau y gellir eu cymryd er mwyn helpu i gyfyngu ar risg, helpu cyflogwyr i nodi pwy sydd angen cyflawni camau penodol, a chadarnhau pryd mae angen gwneud hyn.
Mae’n darparu’r fframwaith er mwyn i gyflogwyr allu canolbwyntio ar y canlynol:
Mae hefyd yn cynnwys mesurau ymarferol y mae busnesau yn gallu eu cymryd, megis:
Dywedodd y Cynghorydd Huw David, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr: “Bydd yr offeryn asesu risg newydd hwn yn helpu cyflogwyr i sicrhau eu bod wedi cwmpasu’r hyn sydd ei angen arnynt er mwyn cadw eu staff a’u cwsmeriaid yn ddiogel yn ystod y cyfnod hwn.
“Yn ogystal â darparu arweiniad ar sut i gyfyngu ar y risg o gael, neu ledaenu’r coronafeirws mewn ardaloedd lle bydd pobl yn ymgynnull megis ffreuturau, coridorau a chyfleusterau tŷ bach, mae’n cynnwys yr hyn sydd angen ei gwmpasu wrth ystyried rheolau glanhau a hylendid, sut i sicrhau bod rheolau cadw pellter cymdeithasol yn cael eu dilyn, a sut i ofalu am iechyd meddwl a llesiant gweithwyr a allai gael eu heffeithio o ganlyniad i deimlo’n ynysig neu bryderu am y coronafeirws.
“Unwaith bydd cyflogwyr wedi cwblhau’r asesiad risg, bydd angen ei fonitro er mwyn sicrhau bod yr hyn sydd wedi’i roi ar waith yn gweithio yn ôl y disgwyl.”
Am ragor o fanylion, ewch i dudalen we yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ar weithio’n ddiogel yn ystod yr argyfwng Covid-19. Mae gwybodaeth a chyngor pwysig pellach ynglŷn â Covid-19 ar gael i gyflogwyr a gweithwyr ar wefan Cymru Iach ar Waith.
Dilynwch ni