Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi grant cychwyn busnes i gefnogi busnesau newydd i ddelio ag effaith ddifrifol y coronafeirws.
Bydd y gronfa, sydd werth £5 miliwn i ddechrau, yn cefnogi cwmnïau newydd nad ydynt yn gymwys ar gyfer y Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig gan Lywodraeth y DU gan mai dim ond yn 2019 y gwnaethant ddechrau masnachu.
Bydd ceisiadau ar gyfer y grant yn agor ddydd Llun 29 Mehefin, ar yr un pryd ag y bydd cam dau’r Gronfa Cadernid Economaidd yn agor ar gyfer ceisiadau.
Bydd y grant cychwyn busnes newydd yn cefnogi hyd at 2,000 o fusnesau yng Nghymru, gan roi £2,500 yr un iddynt.
Gan gyhoeddi’r gronfa ddydd Gwener, 26 Mehefin, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford: “Bydd cyhoeddiad heddiw yn helpu i gefnogi busnesau newydd yng Nghymru nad ydynt yn gallu manteisio ar gynlluniau cymorth ariannol presennol ar hyn o bryd.
“Mae nifer o bobl sydd wedi cychwyn busnes yn y flwyddyn ddiwethaf ddim yn gymwys ar gyfer cymorth gan y Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig gan Lywodraeth y DU ac mae’n aneglur o hyd a fydd yn cymryd camau i sicrhau y bydd yn newid y meini prawf er mwyn helpu’r grŵp hwn o bobl.
“Dyma’r rheswm i ni weithredu a sefydlu’r grant cychwyn busnes hwn. Mae hwn wedi dod o’n gwaith gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac awdurdodau lleol i edrych ar ba gymorth arall sydd ei angen ar y gymuned fusnes ar yr adeg hon.”
Gan groesawu’r grant, dywedodd arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Huw David: “Bydd hwn yn darparu cyllid hanfodol i bobl a sefydlodd eu busnesau rhwng 1 Ebrill 2019 a 1 Mawrth 2020, gan eu helpu i barhau i fasnachu yn ystod y pandemig.
“Fel awdurdod lleol, rydym eisoes wedi darparu mwy na £28 miliwn i dros 2,200 o fusnesau ar ffurf grantiau cymorth busnes gan Lywodraeth Cymru.
“Bydd y grant cychwyn busnes newydd hwn yn rhoi cymorth llif arian parod hanfodol i fusnesau cymwys i’w helpu i oresgyn canlyniadau economaidd yr argyfwng.”
I fod yn gymwys ar gyfer y grant cychwyn busnes, rhaid i fusnesau:
Bydd angen i ymgeiswyr gyflwyno ffurflen gais dwy dudalen o hyd a hunanddatganiad wedi’i ategu gan dystiolaeth.
Caiff y grant ei ddarparu gan awdurdodau lleol a gall busnesau wirio eu cymhwysedd drwy fynd i wefan Busnes Cymru.
Caiff y grant cychwyn busnes ei ddarparu yn y fwrdeistref sirol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a bydd ceisiadau ar agor o 12 hanner dydd, ddydd Llun 29 Mehefin.
Dilynwch ni